Y TÎM: MPW Making Places Work

Medi Parry-Williams

SYLFAENYDD A CHYFARWYDDWR

Medi Parry-Williams yw sylfaenydd MPW Making Places Work

Gyda’i brwdfrydedd, ei gweledigaeth a’i harbenigedd, mae Medi yn arbenigo mewn adfywio lleoedd manwerthu, a gyda’i thîm anhygoel, maen nhw’n datblygu lleoedd sy’n ffynnu ac yn creu cymunedau bywiog – sy’n hanfodol i helpu economïau lleol i dyfu.

Sefydlodd Medi MPW Making Places Work i greu effaith, i adfywio lleoedd ac i wneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau pob dydd pobl.

Mae gan Medi dros 15 mlynedd o brofiad yn y diwydiant canolfannau siopa a chanol trefi, ac mae hi’n adnabyddus am ei hegni, ei sgiliau o ran datrys problemau a’i phroffesiynoldeb, y mae’n eu rhannu i helpu i rymuso pobl eraill a galluogi lleoedd i dyfu.

Gyda phrofiad busnes ymarferol ar lefel ryngwladol, a phrofiadau mewn rolau cyfarwyddwr anweithredol a chyfarwyddwr gweithredol dros nifer o flynyddoedd, mae Medi yn deall yn union pa strategaethau sy’n creu lleoedd manwerthu llwyddianus a chynaliadwy sy’n gwneud elw.

Mae MPW Making Places Work yn rym pwerus a phroffesiynol sy’n gallu creu newid cadarnhaol.

Aelodau'r Bwrdd

Dr Sara Parry

CYFARWYDDWR ANWEITHREDOL

Mae Sara yn arbenigo mewn marchnata, marchnata busnesau bach ac ymddygiad defnyddwyr. Fel addysgwr proffesiynol ar lefel prifysgol, mae Sara hefyd yn cynnig arbenigedd helaeth i’r busnes o safbwynt hyfforddi a datblygu.  

Mae Dr Sara Parry yn Uwch Ddarlithydd Marchnata yn Ysgol Busnes Bangor. Mae hi’n arwain nifer o fodiwlau Marchnata ar y rhaglenni BSc mewn Marchnata, MBA mewn Marchnata Rhyngwladol ac MA mewn Busnes a Marchnata.

O ran gwaith ymchwil, mae ei diddordebau’n cynnwys ymddygiad cwsmeriaid a marchnata busnesau bach, ac mae ei gwaith ymchwil wedi ymddangos mewn sawl cyfnodolyn a gydnabyddir yn rhyngwladol, fel yr European Journal of Marketing, yr International Journal of Consumer Studies a’r Journal of Business Management.

Profiad

Mae Sara’n addysgwraig arbennig, ac yn weithwraig marchnata profiadol a chanddi CV ardderchog, sy’n cynnwys y swyddi a’r cyfrifoldebau a ganlyn:

•  Cyfarwyddwraig Rhaglenni Marchnata Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor

•  Golygydd cyswllt ar gyfer Marketing Intelligence & Planning

•  Mae’n arwain grŵp ymchwil ‘Deall Cwsmeriaid’ yn Ysgol Busnes Bangor.

• Arweinydd prosiectau ymchwil a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru (PI, £20k, 2021- 2022) ynghyd â Gwobrau Effaith ac Arloesi Bangor (PI, £20k, 2022-2023)

•  Arholwraig Allanol ar gyfer y rhaglen MSc mewn Marchnata Strategol yn Ysgol Busnes Caerdydd.

•  Wedi’i hachredu gan y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM).

Dr Anna Edwards

CYFARWYDDWR ANWEITHREDOL

Mae Anna yn arbenigo mewn datblygu’r economi trefol, dadansoddi data, strategaethau a'r economi gyda'r nos.

Mae Anna’n ymchwilydd economaidd profiadol a chanddi bron i ddau ddegawd o brofiad, ac mae ganddi PhD mewn daearyddiaeth economaidd a dadansoddi a datblygu trefol o Brifysgol Melbourne. Bu’n arwain a chymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau yn y sector cyhoeddus a phreifat, at amryw ddibenion economaidd, ac mae ganddi gyfoeth o brofiad ym maes dadansoddi data (meintiol ac ansoddol), ynghyd â dylunio methodolegau ymchwil i ddod o hyd i wybodaeth y mae’n anodd cael mynediad iddi.

Mae’n bleser gennym gael arbenigwraig mor arbennig ym maes data ar ein bwrdd yn MPW, gan mai un o amryw sgiliau Anna, a chryfder allweddol, ydy adrodd gwybodaeth a thystiolaeth o werthusiadau a gynhyrchwyd trwy raglenni ymchwil cynradd ac eilaidd, er mwyn gallu eu dehongli a’u deall yn glir. Mae hi’n ymarferydd rheoli prosiectau PRINCE2 ardystiedig, yn Arbenigwraig Tableau Desktop ac mae hi hefyd wedi ennill ardystiad  Alteryx Designer Core.

Addysg

  • PhD mewn Daearyddiaeth Economaidd a Dadansoddi a Datblygu Trefol o Brifysgol Melbourne

  • MSc mewn Ymchwil a Pholisi Datblygu Economaidd o Brifysgol Birmingham

  • BA mewn Astudiaethau Busnes (Anrhydedd Dosbarth Cyntaf) o Brifysgol Hull

  • Tystysgrif Arbenigol mewn Arweinyddiaeth (Dosbarth Cyntaf) Ysgol Busnes Melbourne

  • Tystysgrif mewn dysgu grwpiau bach

Alison Shipperbottom

CYFARWYDDWR ANWEITHREDOL

Gyda phwyslais cryf ar reoli rhanddeiliaid, a gwerthfawrogiad dwfn o feithrin partneriaethau effeithiol wrth wraidd hynny, mae Alison yn deall pŵer cydweithredu ac uno i gyflawni’r un nod.

Fel arbenigwraig ym maes cyfathrebu a marchnata, treuliodd Alison 18 mlynedd yn gweithio yn y sectorau preifat a chyhoeddus, yn canolbwyntio ar adfywio canol trefi, a threuliwyd degawd o’r cyfnod hwnnw fel Rheolwraig Canolfan Siopa.

Bu ei dull gweithio cydweithredol, a’i thechnegau sydd wedi’u profi o ran rheoli rhanddeiliaid, yn rhan allweddol o lwyddiant sawl prosiect partneriaeth yn y sectorau preifat a chyhoeddus.

Profiad

  • Rolau ym meysydd Datblygu Economaidd, Buddsoddi Mewn Manwerthu a Rheoli  Canol Trefi, gan weithio o fewn amryw Awdurdodau Lleol.

    • Pennaeth Cyfathrebu ar gyfer arbenigwyr adfywio sy’n seiliedig ar fanwerthu, gan oruchwylio’r swyddogaethau cyfathrebu a marchnata ar gyfer portffolio o ganolfannau siopa ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.

    •  Rheolwr Canolfan Siopa â chyfrifoldeb am sbarduno nifer uchel o ymwelwyr, ynghyd â chynnig cymorth busnes i amrywiaeth eang o fusnesau cenedlaethol ac annibynnol.

 

2017: IOSH Rheoli Diogelwch Digwyddiadau, Prifysgol Sheffield Hallam.

2005: BA Cyfathrebu a Rheoli yn y Cyfryngau, Prifysgol Lincoln.

 

Aelodau'r tîm

CYFARWYDDWR

Mae Carl yn arweinydd profiadol yn y sector eiddo manwerthu a chanolfannau siopa, gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn cyfuno arbenigedd masnachol ag arweinyddiaeth sy'n canolbwyntio ar bobl.

Gyda phrofiad helaeth o agweddau gweithredol, strategol ac ariannol ar reoli eiddo ac asedau, mae Carl wedi gweithio ar lefel uwch-fwrdd a phartner ar gyfer rhai o sefydliadau ac buddsoddwyr eiddo mwyaf blaenllaw'r DU. Mae ganddo brofiad o adeiladu timau sy'n perfformio'n uchel, rheoli portffolios cymhleth a throsi arbenigedd y diwydiant yn atebion ymarferol i gleientiaid a rhanddeiliaid.

Drwy gydol ei yrfa, mae Carl wedi bod yn angerddol am ddatblygu pobl, cryfhau sefydliadau a chreu lleoedd lle gall busnesau a chymunedau ffynnu.

Profiad:

Sefydlu a datblygu busnes rheoli eiddo pwrpasol, gan greu tîm o 14 o bobl a oedd yn gyfrifol am bortffolio gwerth £350m yn y DU.

Arwain yr adran rheoli eiddo ac asedau manwerthu yn y DU yn Cushman & Wakefield, gan gynnwys cyfrifoldeb am bortffolio rhanbarthol The Crown Estate.

Rhan o'r tîm arwain yn JLL a ehangodd y portffolio rheoli manwerthu o 13 i 120 o ganolfannau siopa rhanbarthol, gan arwain tîm o 48 o bobl yn Llundain. Profiad uwch ym maes rheoli eiddo ac asedau yn y DU a De Affrica, gan gynnwys canolfannau siopa mawr, portffolios sefydliadol a chleientiaid fel Standard Life, Grosvenor ac Investec.

Carl Foreman

Annelouise Elmquist

RHEOLWR CYLLID

Annelouise yw Rheolwr Cyllid MPW, ac mae gyda hi fwy na 10 mlynedd o brofiad ym meysydd cyllid masnachol, cynllunio a dadansoddi ariannol, adroddiadau rheoli a gweithrediadau busnes.

Mae ei phrofiad ehangach yn cynnwys cynllunio a dadansoddi ariannol, cyfrifyddu rheoli, rhagweld a gwella prosesau.

Mae Annelouise wedi cyrraedd camau olaf cymhwyster ACCA ac mae ganddi radd MA mewn Globaleiddio, Datblygu a Thrawsnewid o Brifysgol Westminster a gradd BA mewn Cymdeithaseg, Diwylliant a'r Cyfryngau o Brifysgol Essex. Ar hyn o bryd, mae hi hefyd yn dilyn cwrs 'Data Analytics Accelerator' yn yr LSE.

Louise Walley

CYNORTHWYYDD PERSONOL I'R PRIF SWYDDOG GWEITHREDOL

Mae gan Louise brofiad helaeth ym meysydd trefnu, gwasanaeth cwsmeriaid a chydlynu.

Gyda chefndir sy'n rhychwantu gofal iechyd, digwyddiadau a chymorth busnes, mae hi'n hynod drefnus, yn canolbwyntio ar bobl ac yn brofiadol wrth gadw blaenoriaethau niferus ar y gweill mewn amgylcheddau prysur.

Yn MPW, mae Louise yn cefnogi'r tîm i wireddu syniadau ac i sicrhau bod prosiectau a phobl yn parhau i fod yn gysylltiedig. Gyda gallu naturiol i feithrin perthnasoedd o ymddiriedaeth, llygad am fanylion a rhagweithiol, mae hi'n helpu i sicrhau bod y tîm yn gallu canolbwyntio ar yr hyn maen nhw'n ei wneud orau – gwneud i leoedd weithio.

Beth am i ni gael sgwrs am eich prosiect

Cwblhewch y ffurflen i drefnu cyfarfod