Newyddion a Blog

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau MPW, ynghyd â mewnwelediadau i’r diwydiant a storïau i’ch ysbrydoli a’ch goleuo, ymunwch â ni ar ein taith drwy gynnwys difyr ein blog, sydd wedi’i lunio i danio chwilfrydedd ac ennyn eich brwdfrydedd.

Newyddion Diweddaraf

Edrychwch ar y newyddion diweddaraf yma neu sgroliwch i lawr i weld yr holl erthyglau Newyddion a Blog isod.

Llunwyr Tref a Dinas yn Dathlu Diwrnod Bangor yn Senedd y DU

Dydd Llun 15fed Medi 2025

Cafodd MPW Making Places Work ymuno ag Aelod Seneddol lleol Bangor yn Senedd y DU, i ddathlu 1,500 o flynyddoedd ers sefydlu dinas Bangor.

Ar ddydd Iau, 11 Medi, roedd Sylfaenydd MPW, Medi Parry-Williams, a chyfarwyddwr y cwmni, Dr Sara Parry, yn falch o gael cefnogi Aelod Seneddol Bangor Aberconwy, Claire Hughes, wrth iddi gynnal Diwrnod Bangor yn y Senedd.

Daeth y digwyddiad â gweinidogion, llunwyr polisïau, a chynrychiolwyr o’r gymuned ynghyd i ddathlu treftadaeth unigryw Bangor, a’i dyfodol disglair. Amlygodd tîm MPW ei ymrwymiad parhaus i adfywio Stryd Fawr Bangor, yn dilyn blwyddyn o gydweithio gyda Chyngor Dinas Bangor i gyflenwi strategaeth farchnata a chysylltiadau cyhoeddus, sy’n anrhydeddu hanes nodedig y ddinas, ac yn edrych at ei dyfodol yn hyderus.

Fel rhan o’u hymweliad, cafodd y tîm hefyd fwynhau taith dywysedig o amgylch y Senedd, a chael mewnwelediad gwerthfawr i’r prosesau sy’n sail i lunio polisïau cenedlaethol.

Roedd y dathliadau yn San Steffan yn cyd-fynd â “Glastonbury i fusnesau” — sef Ideas Fest yn Tring, Swydd Hertford, sy’n gyfle i arweinyddion, entrepreneuriaid, ac ysgogwyr newid ddod ynghyd dros ddau ddiwrnod. Roedd yr ŵyl yn cynnwys sgyrsiau ysbrydoledig gan ffigurau allweddol, oedd yn cynnwys Simon Squibb, Simon Woodroffe, sef sylfaenydd Yo! Sushi, ynghyd â Davina Taylor, Ruby Wax, a llawer mwy. Cafwyd mewnwelediadau trawsnewidiol gan bob un ohonynt yng nghyswllt twf, arloesedd, a chynyddu effeithiau cadarnhaol.

Gan edrych yn ôl dros brysurdeb yr ychydig ddyddiau hyn, dywedodd Medi Parry-Williams, Sylfaenydd MPW: ‘Mae o wedi bod yn brofiad mor ysbrydoledig, a llawn dathlu – o nodweddu hanes Bangor dros gyfnod o 1,500 mlynedd yn y Senedd, i fynd i lygad y ffynnon, yn Ideas Fest, i gael clywed gan ysgogwyr newid byd-eang.

Mae’r cyfleoedd hyn wedi ein helpu i feithrin cysylltiadau gwerthfawr, ynghyd â chryfhau ein cymuned, a pharhau i ymdrechu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i Fangor a thu hwnt.”

Gyda’i gilydd, mae’r digwyddiadau hyn yn nodweddu cam arall yng nghenhadaeth MPW i hyrwyddo lleoedd, pobl, a syniadau, sy’n creu effaith ystyrlon a pharhaol.

Am ragor o wybodaeth ynghylch gwaith a gwasanaethau MPW, ymwelwch â www.mpwmakingplaceswork.co.uk