Polisi Preifatrwydd:
Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn amlinellu sut mae MPW Making Places Work Limited yn casglu, defnyddio, ac yn diogelu eich gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn ymweld â’r wefan neu’n defnyddio ein gwasanaethau.
Gwybodaeth a Gasglwn:
Gwybodaeth bersonol: Pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol fel eich enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn.
Gwybodaeth defnydd: Rydym yn casglu gwybodaeth yn awtomatig am eich rhyngweithiadau â'n gwefan a'n gwasanaethau gan gynnwys cyfeiriadau IP, math o borwr, a gwybodaeth am eich dyfais.
Cwcis: Efallai y byddwn yn defnyddio cwcis a thechnolegau olrhain tebyg i wella eich profiad a dadansoddi patrymau defnydd.
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth:
Darparu gwasanaethau: Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ddarparu a phersonoli ein gwasanaethau, ymateb i ymholiadau a chyfathrebu â chi.
Gwella gwasanaethau: Rydym yn dadansoddi data defnydd i wella ein gwefan a’n gwasanaethau, gwella profiad defnyddiwr a datblygu nodweddion newydd.
Marchnata: Gyda'ch caniatâd, efallai y byddwn yn anfon e-byst hyrwyddo am gynhyrchion a gwasanaethau newydd, cynigion arbennig neu ddiweddariadau eraill.
Rhannu Data a Diogelwch:
Darparwyr gwasanaeth trydydd parti: efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda darparwyr gwasanaeth trydydd parti sy'n ein cynorthwyo i weithredu ein gwefan neu ddarparu gwasanaethau i chi.
Gofynion cyfreithiol: Mae’n bosibl y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth os oes angen yn ôl y gyfraith neu mewn ymateb i geisiadau cyfreithiol dilys.
Diogelwch: Rydym yn cymryd camau rhesymol i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol rhag mynediad, defnydd neu ddatgeliad heb awdurdod.
Storio Data
Ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei chadw mewn ffurf adnabyddadwy am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol at y dibenion y caiff y data ei brosesu ar eu cyfer.
Rydym yn cynnal polisïau a gweithdrefnau yng nghyswllt cadw data er mwyn sicrhau bod data personol yn cael ei ddileu ar ôl amser priodol, oni bai bod cyfraith yn mynnu bod data’n cael ei gadw am isafswm amser.
Eich Hawliau:
Mynediad a Chywiro: gallwch ofyn am gael gweld a chywiro’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi.
Optio allan: mae gennych yr hawl i optio allan o dderbyn cyfathrebiadau hyrwyddo gennym ni.
Dileu Data: Gallwch ofyn am ddileu eich gwybodaeth bersonol, yn amodol ar ofynion a disgwyliadau cyfreithiol.
Newidiadau i’r Polisi hwn:
Mae’n bosibl y byddwn yn diweddaru’r Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu postio ar y dudalen hon, a bydd y polisi diwygiedig yn dod i rym yn syth ar ôl ei rannu.
Cysylltwch â ni:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y Polisi Preifatrwydd hwn, cysylltwch â ni ar medi@mpwmakingplaceswork.co.uk