Pam Fod Mynd i’r Afael â Throseddu ar y Stryd Fawr yn Bwysig
Mae strydoedd mwy diogel nid yn unig yn diogelu busnesau, maen nhw’n adfywio cymunedau. Pan fydd pobl yn teimlo’n ddiogel, maen nhw’n aros mewn lleoedd yn hirach, yn gwario mwy, ac yn dychwelyd yn amlach. Maen nhw hefyd yn siarad am eu profiad cadarnhaol efo pobl eraill, sy’n annog rhagor o ymweliadau. Mae llai o ddigwyddiadau’n golygu premiymau yswiriant is, mae cyn lleied o stoc â phosib yn cael ei golli, a gellir rhoi mwy o egni i mewn i greu profiadau gwell i siopwyr.
Mae MPW yn gweithio’n uniongyrchol â chanolfannau siopa, cynghorau lleol, a phrosiectau adfywio i feithrin dulliau strategol, a arweinir gan y gymuned, sy’n lleihau troseddau ac yn codi hyder.
Sut Mae Cymunedau’n Ymladd yn ôl
Ar draws y DU, mae patrwm yn dod i’r amlwg mewn trefi sy’n ennill y frwydr yn erbyn troseddu yn y sector manwerthu:
• Partneriaethau sy’n gweithio: Pan fo’r heddlu, cynghorau, a busnesau’n cydweithredu, mae problemau’n cael eu datrys yn gyflymach.
• Diogelwch gweladwy: Mae goleuadau gwell, ynghyd â systemau teledu cylch cyfyng, a phatrolau, yn gwneud i siopwyr deimlo’n ddiogel.
• Dylunio cymunedol: Mae lleoedd glân, croesawgar, yn atal troseddu ac yn denu pobl.
• Technoleg glyfar: Mae adnoddau fel ‘Facewatch’, tagio fforensig, a systemau teledu cylch cyfyng sydd wedi’u cysylltu ag AI, yn troi mesurau ataliol yn gynnydd.
Mae pob un o’r camau hyn yn profi un peth, mae dyfodol y stryd fawr yn dibynnu ar ba mor ddiogel y mae pobl yn teimlo wrth gerdded ar ei hyd.
Cwestiynau Cyffredin Ynghylch Troseddu ar y Stryd Fawr
Beth ydy’r prif bethau sy’n achosi troseddu ar y stryd fawr?
Mae costau byw cynyddol, diffyg adnoddau o ran plismona, a grwpiau sy’n ymwneud â dwyn ar sail gyfundrefnol, yn cyfrannu’n sylweddol at hyn. Ond gall trefi sydd wedi’u dylunio’n wael, ynghyd â siopau gwag, greu’r argraff bod rhywle’n anniogel.
Ydy achosion o ddwyn o siopau wirioneddol yn cynyddu?
Ydy, mae data cenedlaethol yn dangos bod y lefel o ddwyn o siopau ar ei huchaf ers 20 mlynedd. Ond mae gwaith plismona wedi’i dargedu, ynghyd â thechnoleg newydd ym maes diogelwch, yn helpu i wrthdroi’r duedd mewn sawl ardal.
Beth all busnesau lleol ei wneud?
Gall mesurau syml fel hyfforddi staff, systemau teledu cylch cyfyng gweladwy, ac ymuno â chynlluniau gwarchod busnes lleol, gael cryn effaith. Mae gweithio gyda phartneriaethau sy’n cynnwys yr heddlu a chymunedau yn helpu i ddod o hyd i aildroseddwyr.
Ydy dylunio’n gallu lleihau troseddu?
Yn bendant. Gall goleuadau da, ffryntiadau siopau gweithredol (‘active shopfronts’), a llinellau gweld clir atal ymddygiad gwrthgymdeithasol — gelwir yr egwyddor hon yn “Atal Troseddau Drwy Ddylunio Amgylcheddol (CPTED).”
Profiad MPW:
Gyda dros 17 mlynedd o brofiad o weithio o fewn canolfannau siopa ac ar gynlluniau cysylltiedig, mewn trefi a dinasoedd ar hyd a lled y DU, mae’r sylfaenydd, Medi, wedi delio’n uniongyrchol ag ystod eang o heriau. O achosion lefel isel o ddwyn o siopa, i ddigwyddiadau difrifol, sy’n cael effaith sylweddol, ac sy’n gofyn am ymatebion di-oed a chydgysylltiedig.
P’un a ydy’r broblem yn bodoli o fewn canol dinas neu stryd fawr leol, yn aml iawn, yr un egwyddorion a chamau ymarferol sydd wrth wraidd pethau.
Egwyddorion a Chamau Allweddol
1. Mae Gweithio Mewn Partneriaeth yn Hanfodol: Mae taclo problemau go iawn a chyflawni canlyniadau mesuradwy’n dibynnu ar weithio mewn partneriaeth yn effeithiol. Mae cydweithredu’n sicrhau bod modd mynd i'r afael â phroblemau cymhleth mewn modd cyfannol, yn hytrach nag ar eich pen eich hun.
2. Cael y Bobl Iawn o Amgylch y Bwrdd: I sicrhau y gellir gweithio mewn modd cydgysylltiedig, sy’n cael effaith, mae’n hanfodol cynnwys y rhanddeiliaid iawn, a hynny wyneb yn wyneb, yn hytrach na thrwy ddulliau rhithwir. Dylai hyn gynnwys yr Aelod Seneddol lleol, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, cynrychiolwyr Cynghorau Tref a Dinas, Arweinyddion Cynghorau, Ardaloedd Gwella Busnes (AGB), Rheolwyr Canol Trefi, Rheolwyr Canolfannau Siopa, buddsoddwyr mawr, manwerthwyr mawr, cymdeithasau tai ac, wrth gwrs, yr Heddlu lleol.
3. Datblygwch Gynllun Gweithredu sy’n Cyflawni Ar Unwaith: Adeiladwch ar gryfderau pob rhanddeiliad, a chytunwch ar gamau y gellir eu rhoi ar waith yn gyflym. Dylid rhannu atebolrwydd, mae gan bawb rôl i’w chwarae mewn creu cymunedau diogelach, cryfach a mwy bywiog.
4. Penodi Arweinydd Clir: Dylai un rhanddeiliad neu gynrychiolydd gymryd yr awenau o ran cydlynu cyfarfodydd a chynnal cysondeb, gan sicrhau bod y cynllun yn parhau i fod yn weithredol ac yn canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau.
5. Sicrhau Cyfathrebu Rheolaidd: Mae cyfarfodydd misol a chyfathrebu cyson yn hanfodol i gynnal momentwm, ynghyd â monitro cynnydd, ac addasu i broblemau sy’n codi.
O Gynllunio, i Gael Effaith
Unwaith y mae’r sylfeini hyn yn eu lle, gellir rhoi’r pethau y cytunwyd bod angen eu cyflawni ar waith, i gael effaith wirioneddol drwy ddulliau amlasiantaethol.
Mae camau cydategol, fel cynnal archwiliadau o ddiogelwch y stryd fawr, cyflwyno defnyddiau cyfamser (‘meanwhile uses’) mewn unedau gwag, ynghyd â chynnal calendr digwyddiadau prysur, yn helpu i atal troseddu, lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, a meithrin amgylchedd croesawgar, buddsoddadwy, a diogel, ar gyfer busnesau ac ymwelwyr.
Mae’r Dyfodol yn Gadarnhaol
’Does dim dwywaith bod y niferoedd yn her, ond mae mwy i’r stori nag ystadegau.
Mae’r dystiolaeth yn dangos bod y Stryd Fawr yn wydn. O blismona cydweithredol ym Manceinion, i fentrau cymunedol yn Rhydychen, mae trefi ledled y DU yn dangos y gellir taclo troseddu, a meithrin hyder unwaith eto.
Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol, gyda chynllun gweithredu i’w roi ar waith.