MPW i lansio Adran Rheoli Eiddo ac Asedau
Mae MPW Consultancy yn ehangu wrth lansio busnes rheoli asedau pwrpasol. Mae hyn yn dynodi twf sylweddol yng ngwasanaethau cynghori'r grŵp sy'n seiliedig ar leoedd.
Sefydlwyd y busnes yng ngogledd Cymru yn 2024, gan ddarparu cyngor arbenigol a chymorth strategol dwyieithog i berchnogion canolfannau siopa a phartneriaid yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector sy’n ceisio adfywio strydoedd mawr yng Nghymru a ledled y DU.
Bydd y gangen newydd yn adeiladu ar waith sefydledig yr ymgynghoriaeth, gan gefnogi partneriaid a sefydliadau ledled Chymru a’r DU gyda strategaethau manwerthu, adfywio strydoedd mawr, a phenderfyniadau masnachol.
Mae'r adran newydd yn adlewyrchu'r galw cynyddol gan gleientiaid am gymorth ehangach, sydd yn amrywio o gyngor strategol hyd at stiwardiaeth hirdymor a chefnogaeth gweithredol.
Bydd y busnes rheoli eiddo ac asedau yn cynnig:
Rheoli asedau manwerthu a chymysg eu defnydd yn weithredol i sicrhau llwyddiant masnachol hirdymor trwy strategaeth a chymysgedd tenantiaid wedi'i ddewis yn ofalus.
Gwasanaethau cynhwysfawr mewn cyfleusterau, rheoli ariannol a rheoli meysydd parcio.
Marchnata cyrchfannau strategol sy'n denu ymwelwyr, buddsoddiad a deiliaid i leoedd.
Dywedodd Medi Parry Williams, sylfaenydd MPW:
“Rydyn ni wrth ein boddau’n ehangu Grŵp MPW fel nad ydyn ni’n unig yn cynghori perchnogion asedau o ran beth ddylen nhw ei wneud â’u canolfannau. Rydyn ni yn gallu cyflawni’n weithredol ac yn sicrhau bod camau gweithredu yn cael eu cynnal dros amser.
“Mae lansio MPW Property & Asset Management yn caniatáu inni bontio’r bwlch, gan sicrhau bod ein strategaethau’n cael eu gweithredu mewn ffordd sy’n creu asedau masnachol llwyddiannus yn ogystal â chefnogi eu lle a’u cymunedau lleol.”
Cefnogir y busnes gan asiantaeth arloesi genedlaethol y Llywodraeth, Innovate UK, sy'n darparu platfform ar gyfer ehangu'r model ledled y DU.
Bydd yr ehangiad yn creu swyddi yn syth er mwyn darparu’r gwasanaethau newydd. Mae MPW eisoes wedi cytuno ar gytundeb dwy flynedd gyda pherchnogion Canolfan Menai (120,000 troedfedd sgwâr) ym Mangor.
Bydd Canolfan Menai yn ymuno â naw o gleientiaid eraill MPW ledled y DU sydd yn cynnwys Rivington Hark, Cyngor Dinas Bangor, a Menter Mon.
Bydd y busnes yn parhau i weithredu fel ymgynghoriaeth, gan ddatblygu ymhellach y systemau, y partneriaethau a'r arbenigedd sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau rheoli asedau.
Daw'r cyhoeddiad ar adeg pan fo asedau manwerthu a chanol trefi yn wynebu newid strwythurol parhaus ac wrth i berchnogion chwilio am ddulliau rheoli mwy integredig a realistig yn fasnachol a chymdeithasol.
Mae MPW yn gweithio drwy gydol y sectorau cyhoeddus a phreifat, a’r trydydd sector, gan gefnogi sefydliadau a busnesau sy'n ymwneud ag adfywio canol trefi a dinasoedd. Am ragor o wybodaeth am Grŵp MPW, ewch i www.mpwproperty.co.uk